Croeso i wefan Ysgol Gynradd Rhosgadfan
Ysgol Gynradd Sirol ydi ysgol Rhosgadfan a lleolir yr ysgol wledig yng nghanol pentref tawel. Ceir golygfeydd godidog o fynyddoedd a’r arfordir. Dyma bentref y llenor enwog Kate Roberts. O fewn tafliad carreg i’r ysgol mae Comin Uwch Gwyrfai, Y Lon Wen, Moel Smytho a Moel Tryfan.
Ein prif nod yn yr ysgol yw i geisio sicrhau bod pob plentyn yn teimlo ei bod yn werthfawr a bod ganddynt i gyd rywbeth i gynnig fel unigolyn ac fel rhan o’r gymdeithas.
Mae pob un plentyn yn wahanol ac yn arbennig yn ei ffordd ei hun ac yn yr ysgol yma byddwn yn rhoi cyfle iddynt i gyrraedd at eu llawn potensial. Down i adnabod pob plentyn yn bersonol ac yn drylwyr er mwyn rhoi iddo/iddi addysg gyflawn.
Rydym yn annog awyrgylch hapus a diogel trwy’r ysgol. Ceir perthynas agos a brwdfrydig rhwng y staff a’r plant. Rydym yn ymfalchio yn ein hysgol a’n plant.