Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hwn yn berthnasol i wefan Ysgol Gynradd Rhosgadfan’s website, sef www.rhosgadfan.ysgoliongwynedd.cymru.

Cyngor Gwynedd sy'n cynnal y wefan, ac rydym eisiau i gymaint o bobl â phosib allu ei defnyddio. Mae hyn yn golygu y dylech, er enghraifft, allu:

  • closio i mewn hyd at 300% heb i'r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
  • llywio drwy'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan (yn Saesneg) drwy ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiwn fwyaf diweddar o NVDA, TalkBack a VoiceOver)

Pa mor hygyrch ydi'r wefan

Rydym yn ymwybodol nad yw rhannau o'r wefan yn gwbl hygyrch:

  • Nid yw’n bosib llywio rhannau o’r wefan yn defnyddio bysellfwrdd.

Adborth a manylion cyswllt

Os ydych chi angen gwybodaeth ar y wefan hon mewn fformat gwahanol, er enghraifft, PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd i'w ddarllen, braille ac yn y blaen, cysylltwch â:

E-bost: judithowen@gwynedd.llyw.cymru

Ffôn: 01286 830 160

Byddwn yn ystyried eich cais, ac yn ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Rhoi gwybod i ni am broblemau efo'r wefan

Rydym wastad yn chwilio am ffyrdd newydd o wella hygyrchedd ar y wefan. Os ydych yn dod ar draws problem sydd ddim yn cael ei rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych yn teimlo nad ydym yn cwrdd â’r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni: judithowen@gwynedd.llyw.cymru

Gweithdrefn orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy'n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd'). Os ydych yn anhapus â'r ffordd rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Cysylltu â ni dros y ffôn neu wyneb yn wyneb

Mae nifer o wahanol ffyrdd o gysylltu â ni: www.rhosgadfan.ysgoliongwynedd.cymru/cy/cysylltuani

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd ar y wefan

Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i wneud y wefan hon yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws Cydymffurfiaeth

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol gyda safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 yn sgil yr hyn nad yw'n cydymffurfio a restrir isod.

Cynnwys nad yw'n hygyrch

Nid yw'r cynnwys sydd wedi ei nodi isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Ddim yn cydymffurfio â rheoliadau hygyrchedd:

  1. Nid oes label disgrifiad o'r testun ar rhai elfennau yn y ffurflenni. Mae hyn yn golygu nad ydym yn cwrdd â meini prawf y WCAG 2.1 AA criteria 4.1.2 (Enw, Rol, Gwerth) Rydym yn anelu i ddatrys hyn erbyn Tachwedd 2022.
  2. Defnydd anghywir o ARIA. Mae hyn yn golygu nad ydym yn cwrdd â meini prawf y WCAG 2.1 A criteria 4.1.2. (Enw, Rôl, Gwerth). Rydym yn anelu i ddatrys hyn erbyn Mawrth 2023. Problem gyda'r porthiant Twitter yw hwn, ac bydd mwy o ymchwil yn cael ei wneud erbyn Tachwedd 2022.

Baich anghymesur

Ddim yn berthnasol. Nid ydym yn honni bod unrhyw faterion hygyrchedd yn afresymol i'w datrys.

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Rydym yn trwsio cynnwys sy'n methu â chyrraedd canllaw 2.1 A a 2.1 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fel mater o frys. Byddwn yn diweddaru'r datganiad hygyrchedd hwn wrth i faterion gael eu datrys.

Paratoi y datganiad hygyrchedd hwn

Cafodd y datganiad hwn ei lunio ar 02 Medi 2022.

Cafodd sampl o dudalennau eu profi yn defnyddio:

axe DevTools - Web Accessibility Testing

WAVE Evaluation Tool

Web Developer