Themau

Rydym yn dilyn yr un thema drwy’r ysgol gyfan. Bydd y themau wedi eu cynllunio yn ofalus er mwyn sicrhau bod y disgyblion yn cael profiadau o egwyddorion y Cwricwlwm newydd i Gymru. Bydd y themau yn creu cyfleoedd i’r disgyblion fwynhau a chodi dyhead pob un disgybl.

Pob dydd Llun byddwn yn cychwyn yr wythnos gyda Dydd Llun Llon. Cyfle i bob un plentyn ddod yn ôl i’r ysgol ar ôl y penwythnos. Mae’r plant yn cael eu rhoi i grwpiau bychan a chael profiadau coginio, gweithgareddau STEM, gwaith celf, grwpiau drama a chyfle i fod allan yn yr awyr agored yn gweithio yn yr ardd neu chwarae gemau buarth.

Wedi dydd Llun Llon rydym yn teimlo bod ein disgyblion yn barod i ddechrau gweithio a dysgu. Byddwn yn dilyn trywydd y plant gyda’n themau. Pob cychwyn tymor mae’r plant yn cael dod at eu gilydd a byddwn yn trafod a rhannu syniadau. Bydd pawb yn cyfrannu tuag at map meddwl ac yna byddwn yn mynd ati i ddysgu a dilyn trywydd y plant.

Dydd Llun Llon

Dydd Llun Llon

Dydd Llun Llon

Dydd Llun Llon