Dyma gyfnod cyffrous i bobl ifanc Cymru. Mae Cwricwlwm newydd i Gymru ar y gweill fydd yn ennyn brwdfrydedd dysgwyr o 3 i 16, gan roi iddynt y sylfaen sydd ei angen i lwyddo mewn byd sy'n newid.
Y Pedwar Diben
Pwrpas cwricwlwm yw galluogi dysgwyr i ddatblygu fel:
- dysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy'n barod i ddysgu gydol eu bywydau
- cyfranwyr mentrus, creadigol sy'n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
- dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a'r byd
- unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas
Y meysydd dysgu a phrofiad
Rhaid i'r chwe maes dysgu a phrofiad canlynol (Maes/Meysydd) gael eu hadlewyrchu mewn cwricwlwm a fabwysiedir.
- Y Celfyddydau Mynegiannol
- Iechyd a Lles
- Y Dyniaethau
- Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
- Mathemateg a Rhifedd
- Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Fe fydd sgiliau Llythrennedd, Rhifedd a Chymwysedd digidol yn cael eu haddysgu ar draws pob Maes Dysgu a Phrofiad.
Elfennau gorfodol cwricwlwm
Yn ogystal a’r uchod, bydd y canlynol yn elfennau gorfodol o gwricwlwm.
- Crefydd, gwerthoedd a moeseg
- Addysg cydberthynas a rhywioldeb
- Cymraeg
- Saesneg