Newyddion

Newyddion Haf 2022

Mai 31ain - Grwp dawns creadigol yn perfformio yn yr Eisteddfod.

Mehefin 8fed - Sesiwn dawns gyda Neli yn cychwyn bob prynhawn Mercher. Sesiwn pêl-droed Disney 2.30-3.30pm bob prynhawn Mercher.

Mehefin 10fed - Blwyddyn 5 a 6 yn cael gweithgareddau ac aros noson Ym Mhlas Menai.

Mehefin 13eg - Wythnos prosiect Plannu gyda Iola Ynyr.

Mehefin 15ed - Twrnament pêl-droed yn Ysgol Syr Huw Owen.

Mehefin 23ain - Sesiwn criced gyda Steve Williams Criced Cymru. Hefyd plant blwyddyn 6 wedi cael mynd lawr i McDonalds fel gwobr diwedd blwyddyn.

Sesiwn criced

Mehefin 24ain - Gweithio ar yr ardd. Yr ysgol yn hynod o ddiolchgar i Loteri Cymru am y grant o £10,000.

Mehefin 29ain - Ymweliad blwyddyn 6 i Ysgol Syr Huw Owen.

Gorffennaf 1af - Dosbarth Mynydd Mawr yn ymweld â Plas Menai.

Plas Menai

Gorffennaf 4ydd - Taith gerdded ar y llwybr llechi i lawr i Waunfawr ac yn ôl dros y topiau ar hyd Lôn Wen.

Taith gerdded

Gorffennaf 5ed - Trip i Melin Llynnon.

Melin Llynon

Gorffennaf 6ed - Gweithgareddau ym Mhen y groes gyda GwyrddNI. Hefyd drama Owain Glyndwr gan Llion Williams.

GwyrddNI

Gorffennaf 7fed - Ymweliad i Llangollen i dderbyn 2il wobr hyrwyddwyr hinsawdd ifanc.

Tymor yr Haf 2021

Yn ystod tymor yr Haf mae blwyddyn 2 a dosbarth Mynydd Mawr wedi cael gwersi chwaraeon gan Gethin o’r Urdd. Maent wedi bod yn datblygu sgiliau athletau a sgiliau pêl yn ystod y sesiynau. Dyma ychydig o luniau o’r sesiynau. (lluniau sesiynau Urdd)

Mae plant blwyddyn 6 wedi bod yn derbyn gwersi diogelwch dwr yng Nghanolfan Hamdden Arfon.

Daeth Mr Tomos atom i roi gwers cyfeiriannu ar y 29ain o Fehefin. Dysgodd y plant sut i afael ar fap yn gywir, dysgu am y gwahanol symbolau ar y map ac yna dilyn trywydd ar y map i ganfod marciau o amgylch yr ysgol. Seswin gwych a’r plant i gyd wedi mwynhau yn arw. (lluniau cyfeiriannu)

Aeth yr ysgol i gyd am drip i Gelli Gyffwrdd ar 30ain o Fehefin . Cafodd pawb ddiwrnod arbennig. Dyma waith Abby yn disgrifio ei diwrnod yn Gelli Gyffwrdd.(lluniau trip a cofnod Abby)

Bu plant blwyddyn 2 a dosbarth Mynydd Mawr yn brysur yn dysgu’r anthem Gymraeg er mwyn cefnogi tim Cymru. Gwrandewch arnyn nhw’n canu , mae nhw’n wych! (fideo plant yn canu’r anthem)