Beth yw Meddylfryd tŵf?
Mae meddylfryd tŵf yn ffordd o ddatblygu gwytnwch a datblygu meddylfryd o weld methiant a chamgymeriadau fel cyfle i ddysgu. Mae ethos o feddylfryd tŵf yn cael ei ddatblygu yn gryf ac yn gadarn yn Ysgol Rhosgadfan ar hyd y blynyddoedd dysgu.
Yn Ysgol Rhosgadfan rydym wedi adnabod 8 cyhyr dysgu gall y plant ymarfer er mwyn ‘tyfu’ eu hymennydd.
- DYFALBARHAU
- CANOLBWYNTIO
- DAL I WELLA
- CYDWEITHIO
- DEFNYDDIO DYCHYMYG
- MWYNHAU DYSGU
- BOD YN CHWILFRYDIG
- RHOI CYNNIG ARNI
Gwersi
Rydym yn dysgu 1 wers Meddylfryd o Dwf yr wythnos yn dilyn syniadau o’r lyfr Shirley Clarke.
Bydis
Bydd yr athrawon yn newid bydis yn rheolaidd. Mae hyn yn golygu bod cyfleoedd i blant gyd-weithio gyda unigolion gwahanol. Mae gan bawb gryfderau a gwendidau ac mae gweithio gyda partner yn golygu bod pawb yn gallu dysgu gan eu gilydd.
Camgymeriadau campus
Mae gan pob dosbarth wal ’Camgymeriadau Campus’ ble fydd athrawon a disgyblion yn trafod camgymeriadau sydd yn codi wrth farcio gwaith. Mae’n gyfle gwych i ddisgyblion weld bod camgymeriadau yn rhywbeth ddylwn ni ddathlu er mwyn symuyd ymlaen a gwella. Yn ysgol Rhosgadfan, rydym yn dathlu camgymeriadau. Mae camgymeriad yn ran o ddysgu a datblygu.
Dewis her
Fel rhan o allu gwella meddylfryd y plant, mae’n bwysig eu bod nhw yn gallu adnabod pa waith sydd ddigon heriol iddyn nhw. Mae’n bwysig nad yw plant yn treulio gormod o amser yn eu parth dysgu cyfforddus gan nad yw hynny yn eu hymestyn yn feddyliol. Mae lefelau gwahanol o her yn cael eu cynrychioli gan liwiau gwahanol yn ein hysgol ni: Coch yw’r weithgaredd mwyaf heriol, yna oren ac yna gwyrdd.